Cannoedd yn dathlu bywyd 'Yogi'
- Cyhoeddwyd

Daeth cannoedd lawer o bobl i wasanaeth arbennig fore dydd Sadwrn i ddathlu bywyd chwaraewr rygbi a fu farw chwe blynedd wedi iddo dorri ei wddf yn ei gêm olaf i'w glwb.
Roedd ffigurau blaenllaw o Undeb Rygbi Cymru ymhlith y dorf ym Maes y Gwyniaid, clwb rygbi'r Bala, i gofio am Bryan "Yogi" Davies.
Yn ystod y gwasanaeth, cyhoeddwyd y bydd y clwb yn parhau i godi arian yn enw Mr Davies i adeiladu estyniad i'r clwb, gan ganolbwyntio ar yr adran ieuenctid yn benodol.
Dywedodd Dilwyn Morgan, un o gyfeillion Mr Davies a fu'n chwarae rygbi gydag o am 25 mlynedd:
"Dymuniad Bryan oedd cael estyniad i'r clwb ar gyfer plant a phobl ifanc - roedd o 'di gwneud llawer iawn o waith ar hynny, roedd o 'di cael caniatâd cynllunio ac ati. 'Da ni fel clwb yn mynd i gario 'mlaen hefo'r gwaith hynny a fydd yr estyniad yn mynd er cof amdano fo.
"'Da ni hefyd wedi darganfod ar ei gyfrifiadur o, roedd o wrthi'n trefnu taith Land's End i John o' Groats yn ei gadair. 'Da ni fel clwb yn mynd i wneud y daith flwyddyn nesa', 'da ni'n mynd i feicio o Land's End i John o' Groats i godi arian ar gyfer estyniad. Hefyd 'da ni'n mynd i gychwyn cronfa fydd yn galluogi plant a phobl ifanc anabl i fynd am wyliau teuluol a fydd hynny'n mynd yn enw Bryan Davies."
'Cawr'
Wedi'r gwasanaeth, bu nifer yn rhoi teyrnged iddo, gan gynnwys Dennis Gethin, Llywydd Undeb Rygbi Cymru:
"Roedd 'na angladd ddoe (dydd Gwener) yn yr Isle of Wight i Cliff Morgan, oedd e'n gawr rygbi - a Yogi nawr, roedd e'n gawr hefyd. Nes i gwrdd â fe sawl gwaith ar ôl iddo gael yr anaf ac roedd e wastad yn ysbrydoliaeth i gwrdd â fe."
Cafodd Mr Davies ei anafu'n ddifrifol yn 2007 yn ei gêm olaf cyn yr oedd i fod i ymddeol o'r gamp.
Wedi'r ddamwain yn 2007 treuliodd dros ddwy flynedd yn yr ysbyty cyn i gronfa apêl godi dros £200,000 er mwyn iddo fedru dychwelyd adref.
Yn 2009 cyhoeddodd lyfr - Mewn Deg Eiliad - yn sôn am ei brofiadau er mwyn ceisio cynorthwyo eraill oedd mewn sefyllfa debyg.
Bu farw yn 56 oed ym mis Awst, gan adael gwraig, mab a merch.
Bydd angladd preifat yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf.
Straeon perthnasol
- 31 Awst 2013
- 3 Chwefror 2012
- 31 Awst 2013