Agor cwest i farwolaeth April Jones

  • Cyhoeddwyd
April Jones
Disgrifiad o’r llun,
Dyw corff April Jones byth wedi cael ei ddarganfod

Bydd cwest yn cael ei agor a'i ohirio ddydd Llun i farwolaeth April Jones.

Aeth April ar goll ger ei chartref ym Machynlleth ar Hydref 1, 2012.

Ym mis Mai eleni cafodd Mark Bridger ei garcharu am oes am ei chipio a'i llofruddio.

Fydd o byth yn cael ei ryddhau o'r carchar.

Mae rhieni April yn gobeithio bydd y cwest yn eu galluogi i drefnu angladd i'w merch, bron i flwyddyn ar ôl iddi gael ei lladd.

Dyw corff y ferch fach erioed wedi cael ei ddarganfod er gwaethaf yr ymdrech chwilio fwyaf yn hanes Prydain.

Ond llwyddodd Heddlu Dyfed-Powys i ddarganfod olion bychain o asgwrn yng nghartre' Bridger.

Y disgwyl yw y bydd tystysgrif marwolaeth yn cael ei roi yn dilyn y cwest.

Er nad oes unrhyw drefniadau angladdol wedi'u cadarnhau yn swyddogol, mae adroddiadau y bydd cais i alarwyr wisgo pinc - hoff liw April.

Mae disgwyl y bydd ei rhieni, Coral a Paul, yn mynychu agoriad y cwest yn Siambr y Cyngor yn Y Trallwng ddydd Llun.