Achub dyn 50 oed ym Mhenrhyn Gŵyr
- Cyhoeddwyd
Cafodd dyn ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl cael beth sy'n ymddangos fel trawiad ar y galon wrth neidio oddi ar glogwyni ym Mhenrhyn Gŵyr.
Roedd y dyn 50 oed yn rhan o'r gweithgaredd ar yr arfordir yn Rhosili, ger Abertawe, pan gafodd ei daro'n wael.
Dywedodd gwylwyr y glannau Abertawe iddyn nhw gael eu galw tua 2:00yh ddydd Sadwrn.
Meddai llefarydd: "Cafodd dyn 50 oed a oedd wedi dechrau cael trafferthion gyda'i galon ei hedfan i Ysbyty Treforys, Abertawe, gan Awyrlu Chivenor."
Does dim manylion ynglŷn â chyflwr y dyn eto.