Wittingham yn sicrhau gêm gyfartal i Gaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Gôl Peter Whittingham (ail o'r dde) sicrhaodd bwynt i GaerdyddFfynhonnell y llun, Matthew Lewis
Disgrifiad o’r llun,
Gôl Peter Whittingham (ail o'r dde) sicrhaodd bwynt i Gaerdydd

Caerdydd 1-1 Hull City

Roedd Caerdydd yn hanner ucha' Uwchgynghrair Lloegr nos Sadwrn ar ôl taro'n ol i sicrhau pwynt yn Stadiwm KC yn Hull.

Oherwydd anaf i David Marshall fe ddechreuodd Joe Lewis ei gêm gynta' yn y Brif Adran i'r Adar Gleision.

Ond cafodd ei guro bum munud cyn yr egwyl wrth i beniad Curtis Davies o groesiad Tom Huddlestone roi'r tîm cartre' ar y blaen.

Prin oedd y cyfleoedd yn yr ail hanner ond llwyddodd Caerdydd i unioni'r sgôr ar ol 59 munud. Peter Wittingham oedd yr arwr, yn taro'r bêl i'r rhwyd o groesiad Don Cowie.

Gwastraffodd cyn ymosodwr Abertawe, Danny Graham, gyfle hwyr i'w hennill hi i Hull.

Roedd yn rhaid i'r ddau glwb a enillodd ddyrchafiad y tymor diwethaf fodloni, felly, ar gêm gyfartal.

Am y tro cyntaf yn Uwchgynghrair Lloegr mae Caerdydd wedi hawlio pwynt mewn gêm oddi cartref.