Casnewydd 2-3 Morecambe
- Cyhoeddwyd
Casnewydd 2-3 Morecambe
Fe sgoriodd amddiffynwr Casnewydd Tom Naylor ddwy gôl i'w rwyd ei hun ac ildio cic o'r smotyn wrth i Morecambe hawlio pedwaredd buddugoliaeth yn olynol yn yr Ail Adran.
Ond rhwydodd Billy Jones ei gôl gynta' i'r tîm cartre', ac wedi ergyd o droed dde Robbie Willmott roedd Casnewydd ar y blaen o 2-1 ar yr hanner.
Ond sgoriodd Naylor ail gôl i'w rwyd ei hun yn yr ail hanner i unioni'n sgôr yn ddamweiniol.
Ildiodd hefyd gic o'r smotyn wedi 70 munud, gyda Padraig Amond yn sgorio i roi'r fantais i'r ymwelwyr.
Mae'r canlyniad yn gosod Casnewydd yn 12fed yn y tabl ar ôl eu colli am y tro cynta' gartre' y tymor hwn.