Wiggins ar ei ffordd i Gymru yn y Tour of Britain
- Cyhoeddwyd

Mae Bradley Wiggins a Mark Cavendish ymhlith y seiclwyr sydd ar eu ffordd i Gymru fel rhan o'r Tour of Britain, sy'n dechrau yn Peebles, Yr Alban, ddydd Sul.
Dros yr wyth niwrnod nesa' bydd y beicwyr yn teithio trwy Brydain, cyn gorffen yng nghanol Llundain ar Fedi 22.
Am y tro cynta' bydd y ras yn aros yn hirach yng Nghymru, gyda dau gymal yn cael ei gynnal yno eleni.
Hon yw ras feicio broffesiynol fwyaf y DU ac mae'n cael ei chynnal am y 10fed tro eleni.
Bydd pedwerydd cymal y ras yn gorffen yn Llanberis wrth droed yr Wyddfa ddydd Mercher, Medi 18, ac yna'r diwrnod canlynol bydd y beicwyr yn dechrau'r pumed cymal 177 cilomedr o Fachynlleth i Gaerffili.
Dyma'r tro cyntaf i'r ras - sy'n dathlu ei degfed pen-blwydd ers cael ei hatgyfodi fel ras fodern yn 2004 - ddod i ogledd Cymru.
Bydd Cymal 4 yn dechrau yn Stoke-on-Trent ac yn mynd drwy Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy a Gwynedd, gan orffen ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Mae rhai o dimau seiclo enwoca'r byd yn cystadlu, gan gynnwys Team Sky, Garmin-Sharp a Movistar.
Wiggins yw'r ffefryn i ennill y ras eleni a byddai buddugoliaeth yn ei roi ar ben ffordd yn ei ymgais i fod yn rhif un y byd unwaith eto.
Byddai hefyd yn creu hanes gan nad oes yr un aelod o dîm Sky wedi ennill y gystadleuaeth o'r blaen.
Straeon perthnasol
- 21 Mawrth 2013
- 14 Medi 2012
- 15 Awst 2012