Pro 12: Gemau'r Gweilch a'r Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Pro 12

Fe chwaraewyd dwy gêm gan ranbarthau Cymru yng nghynghrair y Rabodirect Pro12 nos Sadwrn.

Leinster 29-29 Gweilch

Sicrhaodd pencampwyr y tymor diwetha' a'r Gweilch ddau bwynt yr un ar ôl gêm ddifyr yn Nulyn.

Llwyddodd y ddau dîm i gael y fantais yn ystod y chwarae, gyda Joe Bearman ac Ashley Beck yn croesi'r llinell i'r Gweilch. Ychwanegodd Dan Biggar 19 o bwyntiau gyda'i gicio.

Richardt Strauss, Dave Kearney a Jack McGrath sgoriodd geisiau'r tîm cartre', a Jimmy Gopperth yn hawlio 14 pwynt gyda'i droed.

Sicrhaodd y maswr Biggar gêm gyfartal i'r ymwelwyr wedi i Leinster ildio mantais o 10 pwynt wedi'r hanner cynta'.

Mae'r canlyniad yn golygu fod y Gweilch yn symud i'r pedwerydd safle yn y tabl, a Leinster yn parhau yn drydydd wedi dwy gêm.

Scarlets 26-10 Treviso

Croesodd y mewnwr Gareth Davies ddwywaith i sgorio dau gais i'r Scarlets yn eu buddugoliaeth gynta' yn y Pro 12 y tymor hwn.

Roedd y ddau gais ac 16 pwynt o droed y canolwr Steven Shingler yn ddigon i hawlio'r pedwar pwynt i'r tîm cartre' yn erbyn y tîm o'r Eidal.

Sgoriodd yr asgellwr Ludovico Nitoglia gais i Treviso wedi troi.

Cafodd canolwr y Llewod Jonathan Davies ddychwelyd i'r Scarlets fel eilydd yn yr ail hanner.

Llwyddodd Shingler i greu argraff gyda'i droed - fethodd o'r un gic drwy'r gêm gan hawlio dau drosiad a phedair cic gosb.

Ac roedd sgrym y Scarlets yn arf cryf yn erbyn yr ymwelwyr.