Meddygon penodol i ddelio ag argyfyngau
- Cyhoeddwyd

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn dweud mai nhw yw'r cynta' yn y DU i benodi meddygon sy'n delio'n benodol gyda digwyddiadau argyfwng.
O dan y drefn arferol, byddai staff yn gorfod cael eu galw o adrannau brys.
Ond nawr bydd un meddyg yng ngogledd Cymru ac un arall yn y de ar alwad i fynd yn syth i'r safle.
Yn ôl y gwasanaeth, bydd hyn yn eu galluogi i ymateb yn gyflymach ac yn tynnu'r pwysau oddi ar adrannau brys.
Mae'r ddau feddyg yn arbenigo ym maes anaesthetig.
Bydd James Chinery yn gofalu am ogledd Cymru, a Gareth Roberts yn gyfrifol am y de.
'Ymateb yn well'
Byddan nhw'n gallu cyflawni dyletswyddau fyddai'r tu hwnt i ddyletswyddau parafeddygon, gan gynnwys rhoi cyffuriau lladd poen a thasgau llawfeddygol.
Gallai olygu na fyddai angen cludo cleifion i'r ysbyty ar gymaint o frys.
"Mae 'na dystiolaeth fod pobl sydd wedi'u hanafu'n ddifrifol yn ymateb yn well os ydyn nhw'n cael eu trin yn sydyn gan arbenigwr clinigol," meddai Richard Lees, pennaeth y gwasanaethau clinigol.
Meddai James Chinery: "Mae ein gwybodaeth a'n profiad yn golygu y gallwn gynghori ble fyddai gorau i gludo'r claf, prun ai i adran frys arbenigol neu uned strôc, er enghraifft.
"Gallai olygu teithio ychydig yn bellach, ond mae'n cael ni ar y safle yn golygu y gallwn ddechrau ar unrhyw ofal dwys."
Ychwanegodd Gareth Roberts: "Rydym yma i helpu'r criw fydd ar y safle'n barod, i weithio fel tîm. Rydym yno os bydd claf angen gofal mwy arbenigol."
Straeon perthnasol
- 1 Medi 2013
- 9 Gorffennaf 2013