Galw am wario mwy ar lwybrau beicio

  • Cyhoeddwyd
Seiclo
Disgrifiad o’r llun,
Bydd cynhadledd yng Nghaerdydd yn trafod buddiannau annog mwy o bobl i feicio

Mae angen gwario llai o arian ar adeiladu ffyrdd a mwy ar greu llwybrau beicio mwy diogel yng Nghymru, yn ôl elusen drafnidiaeth.

Mae Sustrans Cymru yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru addasu eu gwariant ar drafnidiaeth os ydynt am annog beicwyr.

Ond mae Sefydliad Moduro'r IAM (Institute of Advanced Motorists) yn rhybuddio y byddai ffyrdd gwael yn beryglus i bawb sy'n eu defnyddio.

Bydd cynhadledd yng Nghaerdydd yn edrych ar sut i annog mwy o bobl i ddefnyddio eu beic a bydd yn canolbwyntio ar fesur gan y llywodraeth i geisio datblygu rhwydwaith o lwybrau cerdded a seiclo ar draws y wlad.

Petai'n cael ei wneud yn ddeddf yn yr hydref, byddai yna ddyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i'w gwneud hi'n haws i bobl gerdded neu feicio.

'£3.30 y pen'

Ond mae Sustrans, sy'n hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy, yn dweud y byddai angen asesu'r gwariant ar drafnidiaeth os am i'r ddeddf wneud gwahaniaeth.

Yn ôl Matt Hemsley, ymgynghorydd polisi'r mudiad, dim ond £3.30 y pen sy'n cael ei wario ar seiclo yng Nghymru - tua £15m y flwyddyn - o'i gymharu â £19 y pen yn yr Iseldiroedd, er enghraifft.

Dywedodd yr hoffai'r elusen weld Llywodraeth Cymru'n gwario hyd at £50m y flwyddyn ar y maes.

"Bydd angen i Lywodraeth Cymru asesu eu cyllid. Ar hyn o bryd maen nhw'n gwario cannoedd o filiynau o bunnoedd ar ffyrdd fel Blaenau'r Cymoedd [yn ne Cymru] ac ychydig iawn ar seiclo."

Ychwanegodd fod angen rhwydwaith fwy diogel o lwybrau os am annog pobl i fynd ar eu beic.

Disgrifiad,

Adroddiad Geraint Thomas

'Anymarferol'

Ond yn ôl Tim Shallcross, pennaeth polisi IAM, fyddai hi ddim yn iawn i "ddwyn arian o un pot a'i roi mewn un arall".

"Yng Nghymru mae'n cymunedau ni wedi'u gwasgaru a dydy seiclo ddim yn ymarferol i rai pobl, yn enwedig pobl hŷn neu ifanc iawn.

"Mae llawer o bobl yn dibynnu ar y ffyrdd - mae 'na lawer mwy o geir ar y ffyrdd nag o feicwyr - ac i gymryd yr arian oddi wrth y ffyrdd, byddai'n golygu na fydden nhw'n cael eu gwella, fyddai'n cael effaith ar bawb sy'n eu defnyddio.

"Mae angen buddsoddi mwy i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i feicwyr ond ddylai hynny ddim bod ar draul y ffyrdd eu hunain."

Bydd cynhadledd 'Cymru: Cenedl o feicwyr' yn ystyried sut allai'r economi, twristiaeth ac iechyd elwa o seiclo.

Meddai John Griffiths, y gweinidog sydd â chyfrifoldeb am ddiwylliant a chwaraeon, a sefydlodd y digwyddiad: "Gall cynyddu nifer y beicwyr yng Nghymru hybu'r economi, yn ogystal â chreu swyddi, hyrwyddo twristiaeth a thorri ar draffig.

"Mae disgwyl i'r mesur newydd ddod yn ddeddf yn yr hydref, a byddwn yn annog pobl ym meysydd beicio, diwydiant a thwristiaeth i drafod sut y gallwn ni wneud Cymru'n genedl o feicwyr."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol