Gatland 'i ddychwelyd i Seland Newydd'
- Cyhoeddwyd

Mae cyn faswr Cymru, Jonathan Davies, wedi dweud ei fod yn disgwyl i Warren Gatland ddychwelyd i Seland Newydd os fydd Cymru'n cael llwyddiant yng Nghwpan y Byd 2015.
Cafodd y gŵr o Seland Newydd ei benodi'n hyfforddwr Cymru yn 2008, ac mae ei gytundeb gydag Undeb Rygbi Cymru'n dod i ben ar ddiwedd y gystadleuaeth yn 2015.
Mae prif weithredwr yr Undeb, Roger Lewis, wedi dweud ei fod yn barod i ddechrau trafodaethau gyda Gatland ynglŷn ag aros yng Nghymru.
'Anodd gwrthod'
Ond dywedodd Davies: "Os fydd e'n ennill Cwpan y Byd, fydd e'n gallu gofyn am unrhyw beth.
"Ar ôl 2015, os fydd e'n fuddugol mae'r crysau duon yn siŵr o ddod i alw arno....fe fyddai hynny'n anodd iawn iddo fe wrthod.
"Ond mae 2015 yn dal yn bell i ffwrdd, ac ry'n ni'n gwybod bod Cymru mewn grŵp anodd gyda Lloegr ac Awstralia."
Mae cyfnod Gatland wedi bod yn ysgubol gan ennill y Gamp Lawn ddwywaith yn 2008 a 2012 a chyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd yn 2011.
Ar ben hynny, fe wnaeth arwain Llewod Prydain ac Iwerddon i fuddugoliaeth ar eu taith i Awstralia dros yr haf - y tro cyntaf ers 16 mlynedd i'r Llewod ennill taith.
Mae ei enw wedi cael ei gysylltu gyda swydd hyfforddwr Seland Newydd, ac mae rheolwr Llewod 2013 Andy Irvine hefyd wedi ei gefnogi i hyfforddi'r Llewod eto pan fyddan nhw'n ymweld â Seland Newydd yn 2017.
'Cynllun pum mlynedd'
Ond mae Roger Lewis wedi dweud ei fod am ddechrau cynllunio'r dyfodol i dîm cenedlaethol Cymru, ac er nad oes amserlen bendant mae'r Undeb yn ceisio cynllunio ar gyfer y tymor hir.
"Ar y lefel yma, nid un, dwy neu dair blynedd yr ydym yn edrych ymlaen," meddai.
"Rydym yn gweithredu cylch pum mlynedd - dyna'r agwedd yr ydym wedi ei chyflwyno i'r gêm yma yng Nghymru a dyna fydd y sgwrs y byddwn yn ei chael.
"Mae'n rhaid iddo fod yn rhywbeth sy'n iawn i Warren a'i deulu. Mae'r pethau eraill yn nhermau ei yrfa yn ffitio hynny.
"Bydd y drafodaeth gyda Warren dros beint. Fe fyddaf yn gofyn iddo: 'Sut wyt ti'n teimlo? Beth yw dy farn am y dyfodol?' Wedyn bydd pethau'n cymryd cymaint o amser ag sydd angen."
Straeon perthnasol
- 10 Gorffennaf 2013
- 7 Gorffennaf 2013
- 4 Gorffennaf 2013