Gwrthdrawiad: Dyn wedi marw
- Cyhoeddwyd
Cafodd dyn 22 oed o ardal Casnewydd ei ladd pan wedi i'w gar fod mewn gwrthdrawiad yn y ddinas nos Sul.
Cafodd yr heddlu a'r gwasanaethau brys eraill eu galw i'r digwyddiad ar gylchfan Ffordd Balfe am 10:30yh.
Roedd gyrrwr yr Audi S3 gwyn- yr unig gerbyd yn y gwrthdrawiad - wedi marw yn y fan a'r lle.
Cafodd menyw 21 oed, hefyd o Gasnewydd, oedd yn teithio yn y car fan anafiadau, ac fe gafodd ei chludo i Ysbyty Brenhinol Gwent.
Mae'r heddlu wedi apelio am wybodaeth am y digwyddiad, gan ofyn i bobl ffonio Heddlu Gwent ar 101 gan nodi'r cyfeirnod 493 15/09/13.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol