Mwy o dreth ar ail gartrefi gwag?
- Cyhoeddwyd
Adroddiad Ellis Roberts
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymgynghoriad allai arwain at ganiatáu i awdurdodau lleol godi mwy o dreth cyngor ar dai gwag neu ail gartrefi.
Ym mis Mai fe gyhoeddwyd y Papur Gwyn ar gyfer Bywyd Gwell a Chymunedau Gwell gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth.
Nod y papur oedd sicrhau bod cartrefi fforddiadwy o ansawdd da ar gael i bawb yng Nghymru, gan gynnwys ymrwymiad i foderneiddio'r sector rhentu preifat drwy gyflwyno mesurau i wella safonau rheoli a chyflwr eiddo.
Un o flaenoriaethau'r strategaeth oedd mynd i'r afael â thai gwag, gan gynnwys trafod rhoi pwerau i awdurdodau lleol i godi'r gyfradd o dreth cyngor ar eiddo gwag hirdymor.
Croesawu
Roedd rhai o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y papur gwyn yn cyfeirio at godi treth cyngor ychwanegol ar ail gartrefi ac er mwyn cael mwy o sylwadau mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori'n benodol.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd Dyfed Edwards y byddai'n croesawu newid y polisi fel y gallai awdurdodau lleol godi treth y cyngor ychwanegol ar ail gartrefi.
"Rydan ni wedi bod yn pwyso am hyn am amser hir," meddai.
Dywedodd llefarydd tai y Ceidwadwyr Mark Isherwood AC: "Os yw'r gweinidog am wella'r farchnad, fe ddylai ymwneud â darparwyr a chael gwared ar y rhwystrau yn erbyn cynnydd yn y sector.
"Tra bod rhai perchnogion ail gartrefi'n gallu ymateb yn bositif i'r costau ychwanegol, mae llawer wedi defnyddio eu cynilion i wireddu eu breuddwyd.
"Dylai'r gweinidog ddiffinio beth yw 'ail gartref'."
'Gwrthgymdeithasol'
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae cartrefi gwag yn adnodd tai y dylid dechrau ei ddefnyddio unwaith eto, yn enwedig ar adeg pan mae angen mwy o gartrefi fforddiadwy.
"Maen nhw hefyd yn gallu denu ymddygiad gwrthgymdeithasol a chael effaith andwyol ar yr amgylchedd, ac yn gallu arwain at drobwll o ddirywiad mewn rhai cymunedau.
"Rydym yn lansio'r ymgynghoriad hwn i wahodd sylwadau ar roi pŵer disgresiwn i awdurdodau lleol godi treth gyngor ychwanegol ar ail gartrefi fel ffordd bosibl o helpu awdurdodau i fynd i'r afael â nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael, ac i gynnal cymunedau a'r gwasanaethau cyhoeddus y maen nhw'n dibynnu arnyn nhw."
Bydd yr ymgynghoriad yn para am chwe wythnos, ac mae Llywodraeth Cymru felly'n gwahodd ymatebion erbyn Hydref 28, 2013.
Fe fydd y papur ymgynghori'n cael ei ddosbarthu i awdurdodau lleol, ac mae hefyd i'w gael ar wefan Llywodraeth Cymru ynghyd â dulliau o ymateb i'r ddogfen.
Straeon perthnasol
- 12 Ebrill 2013
- 11 Mawrth 2013
- 28 Tachwedd 2012
- 27 Awst 2012