Cymdogion yn disgrifio ffrwydrad tŷ yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd

Mae cymdogion wedi bod yn disgrifio ffrwydrad a ddinistriodd dŷ yng Ngheredigion, wrth i'r ymchwiliad barhau i'r achos.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r eiddo ym mhentre' Beulah am 9:03pm nos Sadwrn.
Ni chafodd unrhyw un niwed ac nid oedd y perchnogion yn bresennol pan ddigwyddodd y ffrwydrad.
Dywedodd un o'u cymdogion, Geraint Davies: "Roeddwn yn gwylio teledu yna clywais andros o glec - r'on i'n meddwl fod fy nhŷ wedi cwympo.
"Ond ar ôl mynd allan i weld beth oedd wedi digwydd doeddwn i methu a gweld dim byd - felly fe es i'r ffordd ac wrth edrych ro'n i'n gallu gweld fod y tŷ drws nesa wedi diflannu."
Yna fe ffoniodd yr heddlu.
Dywedodd fod ditectifs yn amau yn gryf mai nwy oedd wedi achosi'r ffrwydrad.
Dywedodd cymydog arall, Wyn Thomas, iddo glywed clec enfawr tra'n bwyta ei swper.
"Roedd o'n sioc. Hwn oedd y tro cyntaf i mi glywed sŵn tebyg," meddai Mr Thomas, oedd wedi gwneud gwaith cynnal a chadw ar do'r tŷ a gafodd ei ddinistrio 20 mlynedd yn ôl.
"Rwy' methu credu maint y difrod - mae fel tase bom wedi ffrwydro yno."
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru nad oedd achos y ffrwydrad wedi ei gadarnhau eto a bod yr ymchwiliad yn parhau.