Suddo'r Swanland: Rhagor o fethiannau
- Cyhoeddwyd

Bron i ddwy flynedd ar ôl i long nwyddau suddo ger arfordir Gwynedd mae ymchwiliad gan y BBC wedi canfod mwy o fethiannau yn y modd yr aed ati i gofrestru'r llong ac o asesu ei diogelwch.
Mae'r awdurdodau ar Ynysoedd Cook yn cydnabod eu bod wedi torri rheolau eu hunain oherwydd na chafodd y Swanland ei harchwilio'n ddigon trwyadl.
Ond maen nhw wedi gwadu honiadau fod yr ynysoedd yn cael eu defnyddio fel lleoliad lle mae'n haws i gofrestru llongau.
Yn ôl Torbulk Cyf, oedd yn gyfrifol am y Swanland, roeddynt o'r farn fod y llong yn cwrdd â'r rheolau angenrheidiol a'i bod yn ddiogel i'w hwylio.
Fe wnaeth y llong suddo oddi ar benrhyn Llŷn a bu farw chwech o forwyr.
Camgymeriadau
Cafodd dau o'r criw o Rwsia - Roman Savin, 27, a Vitaly Karpenko, 48 - eu hachub gan hofrennydd yr Awyrlu wedi'r digwyddiad ar Dachwedd 27, 2011.
Yn fuan wedyn cafwyd hyd i gorff aelod arall - Leonid Safonov, 50 - ond dyw cyrff y pum aelod arall o'r criw byth wedi cael eu canfod.
Roedd y llong y tu allan i ffin y moroedd sydd o dan reolaeth y Deyrnas Unedig.
Dywed yr awdurdodau ar Ynysoedd Cook fod yna gamgymeriadau wedi eu gwneud.
Maent yn derbyn y dylai arolwg mwy trylwyr fod wedi ei gynnal ar y Swanland oherwydd oedran y llong a'r math o nwyddau oedd yn cael eu cludo.
Yn gynharach eleni cyhoeddodd adroddiad gan yr Uned Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) nad oedd gwaith cynnal a chadw wedi ei wneud ar y Swanland ers dwy flynedd, a'i bod wedi gwanhau'n sylweddol oherwydd rhwd.
Dim disgyblu
Roedd y llong yn cario llwyth o 3,000 tunnell o wenithfaen o Landdulas yng Nghymru i Cowes ar Ynys Wyth pan aeth i drafferthion.
Dywedodd Glen Armstrong, rheolwr gyfarwyddwr Maritime Ynysoedd Cook, y sefydliad sy'n gyfrifol am gofrestru llongau ar yr ynysoedd, wrth y BBC iddo gael ei synnu a'i frawychu pan glywodd y manylion am y suddo.
"Fe wnaethom gamgymeriad, a dylid fod wedi cynnal arolwg mwy manwl.
"Ond pe bai ni wedi gwneud hynny, a fyddai wedi gwneud gwahaniaeth? Dwi ddim yn gwybod.
"Fe wnaethom fethu a dilyn rheolau ein hunain. Y rheswm am hyn oedd camgymeriad dynol."
Dywedodd Mr Armstrong na fyddai unrhyw un yn wynebu achos disgyblu.
Gwadodd yr honiad fod Ynysoedd Cook yn lle hawdd i gofrestru llongau.
Dyw'r awdurdodau ym Mhrydain heb fod yn rhan o'r ymchwiliad oherwydd i'r llong suddo 12 milltir o'r arfordir - a thu allan i reolaeth y DU.
Yn ôl Charles Boyle, o undeb llafur Nautilus, fe ddylai'r awdurdodau yn y DU ymyrryd.
Ychwanegodd fod y Swanland wedi torri rheolau'r DU ar sawl achlysur gan ei fod yn aml yn hwylio o fewn y ffin 12 milltir.
Straeon perthnasol
- 12 Mehefin 2013
- 29 Tachwedd 2011