Dyn 52 oed o Sir y Fflint yn gwadu dynladdiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 52 oed o Sir y Fflint wedi gwadu cyhuddiad o ddynladdiad wedi i ddyn 40 oed farw yng Nghei Connah ar Chwefror 1.
Roedd honiadau bod Anthony Williams wedi marw ar ôl cael gorddos o gyffuriau.
Scott Smallman o Gei Connah oedd gerbron Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth cyn gwrandawiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar Hydref 4.
Oherwydd amodau mechnïaeth rhaid iddo fynd i orsaf yr heddlu ar Lannau Dyfrdwy deirgwaith yr wythnos.