Bydwraig â thair swydd yn euog o dwyllo

  • Cyhoeddwyd
Samantha ThomasFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Samantha Thomas yn gweithio 70 awr yr wythnos mewn tair swydd

Clywodd llys fod bydwraig brofiadol wedi twyllo'r Gwasanaeth Iechyd drwy elwa ar filoedd o bunnoedd wrth gael tair swydd yr un pryd.

Cafwyd Samantha Thomas, 49 oed, yn euog o bedwar cyhuddiad o dwyll, gan gynnwys honni ei bod "ar alwad" tra'n cyflawni swyddi eraill.

Roedd yn gyfrifol am famau beichiog ar y pryd ac wedi geni dros 1,000 o fabanod dros gyfnod o 30 mlynedd yn ne Cymru.

Hefyd roedd yn darlithio mewn bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Clywodd y llys fod Thomas yn cael ei hystyried yn "broffesiynol iawn" a'i bod wedi ei henwebu ar gyfer gwobr Bydwraig y Flwyddyn.

Ond roedd y fam i ddau yn mynd trwy ysgariad "blêr a drud" ac roedd wedi dechrau gweithio mewn cartre' gofal i gleifion dementia yn ogystal â dwy swydd arall.

Roedd yn gweithio shifftiau yn y cartre' tra oedd hi'n cael ei thalu gan y Gwasanaeth Iechyd i fod ar alwad fel bydwraig gymunedol.

70 awr yr wythnos

Dechreuodd addasu eu hamserlenni gwaith a'i chostau teithio oherwydd ei gwaith ychwanegol.

Clywodd Ynadon Y Fenni fod Thomas yn gweithio dros 70 awr yr wythnos rhwng ei thair swydd.

Dywedodd yr erlynydd Nicholas Rooke wrthi: "Roeddech yn gwneud shifftiau 12 awr mewn cartre' nyrsio, ar alwad drwy'r nos fel bydwraig ac yn magu dau o blant yn eu harddegau.

"Sut oeddech chi'n ymdopi?"

Atebodd Thomas: "Doeddwn i ddim. Roedd yn anhygoel o anodd ac yn anodd ei gynnal.

"Doedd 'na fyth adeg nad oeddwn yn cyflawni fy nyletswyddau ar alwad a wnes i erioed fethu geni baban yn y cartre'.

"Wnes i erioed fwriadu gwneud arian yn anghyfreithlon gan y Gwasanaeth Iechyd."

Fe wadodd saith cyhuddiad o dwyll, gan roi'r bai ar y ffaith fod ei phriodas wedi dod i ben a honiadau o drais yn y cartre'.

'Adeg anodd'

Ychwanegodd: "Dydw i ddim yn gwadu 'mod i'n ceisio cynnal fy ngwaith ar y bwrdd, yn y cartre' nyrsio a'r brifysgol.

"Ond gallaf eich sicrhau nad oeddwn yn bwriadu bod yn anonest.

"Rwyf wedi gweithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd ers pan o'n i'n 19 oed. Fyddwn i ddim yn peryglu hynny.

"Roedd yn gysylltiedig ag adeg anodd iawn i mi, roeddwn i'n ei chael yn anodd yn ariannol wrth fynd drwy ysgariad."

Clywodd y llys fod Thomas wedi derbyn dros £3,500 trwy'r Gwasanaeth Iechyd tra'n cynnal swyddi eraill.

Roedd hefyd wedi hawlio £285 ar gam gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan am 1,909 milltir ar alwadau ffug i weld mamau beichiog.

Cafodd orchymyn cymunedol am flwyddyn a bydd yn gorfod gwneud 150 awr o waith di-dâl.

Bydd hefyd yn gorfod talu £2,000 mewn iawndal i'r bwrdd iechyd.

'Colli enw da'

Dywedodd y Barnwr Parsons wrthi nad oedd yn mynd i'w charcharu oherwydd yr amgylchiadau arweiniodd at y twyll.

Meddai: "Tristwch yr achos hwn yw eich bod wedi colli eich enw da.

"Roeddech yn fydwraig uchel eich parch, oedd yn gweithio'n galed ac wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'ch cymuned.

"Petaech chi heb fod drwy ddigwyddiadau anodd, mae'n anhebygol y byddech chi wedi cyflawni'r troseddau hyn."

Wedi'r achos, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan: "Roedd Thomas yn fydwraig gymunedol, gyda'i chyflogwyr yn ymddiried ynddi, ac fe wnaeth hi gamddefnyddio'r ymddiriedaeth honno.

"Dyfarnodd y llys fod Thomas wedi bod yn anonest - mae wedi siomi ei hun, yn ogystal â bydwragedd eraill a'r gwasanaeth iechyd."

Mae Thomas bellach yn gweithio fel bydwraig yn Llundain ond gallai hi gael ei thynnu oddi ar y gofrestr fydwragedd yn ystod gwrandawiad disgyblaeth y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.