Dynes wedi marw ôl lladrad honedig

  • Cyhoeddwyd

Bu farw dynes oriau ar ôl lladrad honedig mewn tŷ yn Llandudno, Conwy.

Bu farw Carole Anne Wall, 58, yn yr ysbyty ddydd Llun, rhyw awr a hanner wedi i'r heddlu gael eu galw i'w chartre'.

Aeth swyddogion i'r tŷ ar Heol Dewi Sant am 10:30yh nos Sul wedi adroddiadau bod rhywun wedi torri i mewn.

Mae'r heddlu wedi arestio dyn 36 oed ar amheuaeth o ladrata.

Mae crwner gogledd Cymru wedi agor ymchwiliad i'r farwolaeth.

Mae swyddogion hefyd wedi bod yn gwneud ymholiadau o ddrws i ddrws.

Mae teulu Ms Wall yn cael cefnogaeth swyddogion cyswllt yr heddlu.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Steve Williams, o Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn parhau i ymchwilio ac yn apelio ar unrhyw un a oedd yn ardal Heol Dewi Sant o 11:15yh nos Sul ac a allai fod wedi clywed neu weld rhywbeth i gysylltu â'r heddlu ar unwaith."

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101 neu gysylltu'n ddienw â Thaclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol