Carcharu pêl-droediwr am yrru'n beryglus
- Cyhoeddwyd

Mae pêl-droediwr lled-broffesiynol wedi cael ei garcharu am 15 mis yn dilyn dau achos o yrru'n beryglus ar yr un noson.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod Richard Lee Evans, 36, wedi taro i mewn i gefn tacsi yn ei fan Ford Transit ar Fawrth 17 eleni.
Roedd y tacsi wedi stopio wrth oleuadau traffig dros dro, ond fe wnaeth Evans barhau gyda'i daith gan fynd drwy'r golau coch.
Dychwelodd i'r safle yn ddiweddarach ac roedd yr heddlu yno, ond fe wadodd Evans fod ganddo unrhyw ran yn y digwyddiad blaenorol.
Wrth i'r heddlu geisio tynnu goriadau'r fan oddi wrtho, fe drodd Evans y fan a gyrru i ffwrdd a bu'n rhaid i un heddwas neidio o'r ffordd rhag cael ei daro.
14 mis
Yn y llys plediodd Evans, sy'n cael ei adnabod fel Ricky, yn euog i ddau gyhuddiad o yrru'n beryglus ar yr A525 ger Coedpoeth.
Cafodd ei garcharu am 14 mis a'i wahardd rhag gyrru am dair blynedd, a bydd rhaid iddo sefyll prawf gyrru estynedig cyn cael ei drwydded yn ôl.
Ond gorchmynnodd y Barnwr Philip Hughes y dylai dreulio mis yn ychwanegol yn y carchar am ei fod wedi torri amodau dedfryd flaenorol am fod â nwyddau wedi eu dwyn yn ei feddiant.
Dywedodd y barnwr hefyd ei bod yn amlwg ei fod wedi bod yn yfed ar noson y troseddau er na chafodd ei gyhuddo o yfed a gyrru. Roedd y plismyn ar ddyletswydd yn sicr o'i gyflwr pan aethon nhw ato ar safle'r digwyddiad cyntaf.
Mae Evans wedi chwarae 500 o gemau yn Uwchgynghrair Cymru, ac fe gafodd eirda gan ei glwb Gap Cei Connah. Mae hefyd wedi chwarae i 10 o glybiau eraill gan gynnwys Y Seintiau Newydd, Y Bala, Aberystwyth a Bangor, yn ogystal â thîm lled-broffesiynol Cymru yn ystod ei yrfa.