Carchar i ddyn o Gaernarfon am daro pen dyfarnwr
Mae pêl-droediwr o Wynedd wedi ei garcharu am flwyddyn ar ôl defnyddio ei ben i daro dyfarnwr.
Plediodd Jason Roberts, 24 oed o Gaernarfon, yn euog i gyhuddiad o ymosod, gan achosi niwed corfforol i Shon Hughes.
Roedd Roberts eisoes yn wynebu dedfryd ohiriedig o 12 mis.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Roberts wedi cael cerdyn coch am ei ail drosedd yn y gêm rhwng ei dîm Llanbabo a Harlech yng Nghynghrair Caernarfon.
Roedd Roberts yn eilydd ac ychydig cyn diwedd y gêm ym mis Medi'r llynedd cafodd gerdyn coch ar ôl gwrthod bod 10 metr o gic rydd.
Cafodd ei wahardd am oes rhag chwarae yn y gynghrair.
Arf
Gadawodd ei dîm Llanbabo y gynghrair ar ôl dirwy o £500 oherwydd ymddygiad Roberts.
Dyw'r ddirwy heb gael ei thalu.
Clywodd y llys fod y dyfarnwr wedi cael anafiadau i'w geg a bu'n rhaid iddo gael triniaeth ddeintyddol.
Ym mis Chwefror roedd Roberts wedi defnyddio ei ben i daro plismon. Fe gafodd ddedfryd ohiriedig.
Dywedodd y Barnwr Merfyn Hughes QC: "Mae'n ymddangos fod gennych duedd i ddefnyddio eich pen fel arf.
"... roeddech yn bwriadu achosi mwy o niwed na'r hyn wnaethoch lwyddo i wneud."