Kirsty Williams: 'Stopiwch yr SNP rhag rheoli'r agenda'

Dylai'r blaid atal yr SNP rhag rheoli'r ddadl am gyfansoddiad y DU, medd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
Yn eu cynhadledd Brydeinig yn Glasgow dywedodd Kirsty Williams y dylai ei phlaid ymgyrchu i gadw'r Alban yn y DU.
"Ymhen blwyddyn bydd pobl yr Alban yn gorfod dewis rhwng dau lwybr.
'Yn gryfach'
"Fel plaid dylen ni groesawu eu bod yn cael cyfle i leisio eu barn.
"Fel plaid dylen ni ymgyrchu'n fwy nag erioed i'w perswadio i beidio â bod yn annibynnol.
"Rydyn ni'n gryfach yn yr Undeb Ewropeaidd ac yn gryfach yn undeb o bedair cenedl."
Dywedodd fod angen arwain y drafodaeth i gyfeiriad "setliad mwy cytbwys".
'Mwy o bwerau'
"Dwi'n golygu setliad lle mae mwy o bwerau i Gymru, yr Alban, Llundain, Lloegr, y rhanbarthau.
"Dim ond 9% yng Nghymru sy' eisiau annibyniaeth."
Byddai gweinidogion yn Llywodraeth San Steffan, meddai, yn pwyso fel y bydd gan Lywodraeth Cymru'r hawl i reoli rhai trethi ac amrywio treth incwm.
"Bydd rheoli treth y stamp yn hwb i'r diwydiant tai.
"Bydd amrywio treth incwm yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru'n gyfrifol am wario.
"Mae angen pwerau benthyg er mwyn buddsoddi a rhoi hwb i'r economi."