Cyngor Powys i gadw gwasanaethau bws

  • Cyhoeddwyd
Bys

Mae Cyngor Powys wedi penderfynu peidio cael gwared ar 12 o wasanaethau bws, wedi i gynghorwyr ddod i'r casgliad na fyddai gwneud hynny'n deg.

Roedd y cyngor eisoes wedi dweud bod y cynllun yn debygol o arwain at "adborth negyddol iawn".

Mae Cyngor Powys yn wynebu gostyngiad o £30 miliwn yn eu cyllideb dros y tair blynedd nesaf ac mae swyddogion yn cynllunio ystod eang o arbedion.

Roeddent wedi gobeithio gallu arbed £500,000 drwy dorri 12 allan o'r 30 gwasanaeth sy'n cael eu cynnig ar hyn o bryd.

Y rhai oedd dan fygythiad oedd y rhai rhwng Llanfair Caereinion a'r Drenewydd, yn ogystal â gwasanaethau o fewn Machynlleth.

'Teg a chyfartal'

Y Cynghorydd Barry Thomas sy'n gyfrifol am ffyrdd o fewn cabinet y cyngor. Dywedodd:

"Mae'n rhaid i ddarpariaeth trafnidiaeth cyhoeddus ledled y wlad fod yn deg a chyfartal, hyd yn oed os yw'n cael ei ddarparu gyda adnoddau sydd wedi eu gostwng yn sylweddol.

"Ar ôl ystyried nifer o opsiynau er mwyn ceisio gweithredu'n unol a chyfyngiadau cyllidol, penderfynwyd na fyddai torri'r gwasanaethau yn deg oherwydd yr effaith fyddai'n gael ar gymunedau gwledig, er gwaetha'r ffaith y byddai wedi arwain at yr arbedion hanfodol."

Mae'r cyngor wedi penderfynu gohirio'r penderfyniad a bydden nhw nawr yn ehangu'r adolygiad gwariant er mwyn ceisio dod o hyd i gynllun tecach.

Bydd ymgynghoriad arall yn cael ei gynnal cyn gweithredu unrhyw newidiadau.

Fe wnaeth y cyngor benderfynu torri nifer o swyddi o fewn yr awdurdod yn gynharach yn y flwyddyn wrth iddynt geisio cydbwyso'r gyllideb.

Maen nhw'n gobeithio bydd hynny'n arwain at arbedion o £4 miliwn.

Fe gafodd gwasanaeth bws yn Sir Ddinbych ei ddiddymu'n ddiweddar wedi i'r cyngor ddarganfod y byddai'n rhatach sybsideiddio tacsis lleol i wneud y gwaith.