Abertawe 2 - 2 Lerpwl
- Cyhoeddwyd
Jonjo Shelvey oedd yr enw ar wefusau pawb wrth iddo chwarae rhan ymhob un o'r pedair gôl mewn gêm gyfartal rhwng Abertawe a Lerpwl.
Fe sgoriodd Shelvey, a arwyddodd i Abertawe o Lerpwl, wedi dau funud gan daro cefn y rhwyd gyda'i ail ymdrech wedi i'w ergyd wreiddiol gael ei hatal gan Mignolet yn y gôl i Lerpwl.
Ond roedd hi'n 1-1 ddau funud wedyn, wrth i Shelvey wneud smonach o bas yn ei hanner ei hun. Daniel Sturridge oedd yn ddigon effro i gymryd mantais gan daro ergyd daclus o dan Michael Vorm.
Roedd Victor Moses yn achosi pob maeth o broblemau i Abertawe, ac y cyn chwaraewr Chelsea roddodd Lerpwl ar y blaen.
Shelvey oedd ar fai unwaith eto gyda phas flêr arall. Roedd gan Moses lawer o waith ar ol i wneud ond llwyddodd i gadw'i ben a'i gwneud hi'n 1-2.
Cafodd Ashley Williams ei roi yn llyfr y dyfarnwr wedi ugain munud yn yr ail hanner am ddal ei dir braidd rhy gadarn gan achosi i Philippe Coutinho anafu ei ysgwydd.
Llwyddodd prif sgoriwr yr Elyrch y tymor diwethaf Michu i'w gwneud hi'n 2-2 wrth iddo dderbyn pas glyfar gan - ie - Jonjo Shelvey.
Byddai Abertawe wedi bod yn fwy na hapus gyda gêm gyfartal cyn i'r gêm gychwyn, ond bydden nhw'n teimlo y gallan nhw fod wedi sicrhau'r triphwynt yn dilyn perfformiad safonol.