Saethu Casnewydd: Arestio chweched dyn

  • Cyhoeddwyd
Heddlu
Disgrifiad o’r llun,
Heddlu fforensig yn archwilio'r safle

Mae heddlu sy'n ymchwilio i achos honedig o geisio llofruddio yng Nghasnewydd wedi arestio dyn arall.

Cafodd dyn 20 oed o Gasnewydd ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio.

Mae ymchwiliad Heddlu Gwent yn ymwneud â digwyddiad ar Ffordd Cas-gwent ar Fedi 3 pan y credir i ergydion o wn awyr gael eu tanio o un cerbyd at un arall.

Mae un dyn 22 oed, Lewis Bridge, eisoes wedi ymddangos gerbron ynadon yng Nghaerffili i wynebu tri chyhuddiad o geisio llofruddio. Bydd yn ymddangos yn Llys Y Goron Casnewydd ddydd Iau.

Cafodd dau ddyn arall, 22 a 24 oed, eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, ac fe gafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu wrth i'r ymchwiliad barhau.

Fe gafodd dau ddyn arall, 22 a 24 oed, eu harestio ar amheuaeth o fod â rhan mewn cyflenwi cyffuriau anghyfreithlon. Maen nhw hefyd wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn parhau'n awyddus i ganfod yr arf a ddefnyddiwyd yn y digwyddiad, ynghyd â cherbyd 4X4 tywyll a welwyd yn gyrru ar hyd Ffordd Câs-gwent oddeutu 11:00pm ar noson Medi 3.

Maen nhw'n gofyn i bobl all fod o gymorth i'r ymchwiliad i ffonio 101 gan nodi'r cyfeirnod 586 03/09/13, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.