Agor cwest i farwolaeth dynes wedi lladrad honedig

  • Cyhoeddwyd
Car heddlu ger tŷ Carole Wall
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd yr heddlu eu galw i gartre' Carole Wall ar ôl adroddiadau fod rhywun wedi torri mewn

Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio i farwolaeth dynes, a lewygodd yn dilyn lladrad honedig yn ei chartre'.

Bu farw Carole Anne Wall, 58, yn Ysbyty Glan Clwyd yn oriau man bore Llun, rhyw awr a hanner wedi i'r heddlu gael eu galw i'w chartre'.

Mae archwiliad cynnar yn awgrymu mai "digwyddiad cardiaidd" oedd achos ei marwolaeth.

Aeth swyddogion i'r tŷ ar Heol Dewi Sant am 11:30yh nos Sul wedi adroddiadau bod rhywun wedi torri i mewn.

Cafodd dyn 36 oed ei arestio gan yr heddlu ar amheuaeth o ladrata a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.

Mae swyddogion hefyd wedi bod yn gwneud ymholiadau o ddrws i ddrws.

Mae teulu Ms Wall yn cael cefnogaeth swyddogion cyswllt yr heddlu.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Steve Williams, o Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn parhau i ymchwilio ac yn apelio ar unrhyw un a oedd yn ardal Heol Dewi Sant o 11:15yh nos Sul ac a allai fod wedi clywed neu weld rhywbeth i gysylltu â'r heddlu ar unwaith."

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101 neu gysylltu'n ddienw â Thaclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol