Non yn meddwl am y dwbl yng Ngemau'r Gymanwlad
- Cyhoeddwyd

Dydy'r Gymraes Non Stanford ddim wedi diystyrru cystadlu yn y ras 10,000 metr a chael gwneud y dwbl yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014.
Awgrymodd Stanford, 24, y byddai'n cystadlu yn y dwbl ar ôl cael ei choroni yn Bencampwraig Triathlon y Byd ar ôl ennill y gyfres yn Llundain ddydd Sadwrn.
Dywedodd Athletau Cymru y byddai'n rhaid iddi redeg un ras 10,000m safon 'A' mewn llai na 33 munud er mwyn bod yn gymwys i gystadlu.
"Dydw i ddim wedi diystyrru'r peth yn llwyr," meddai. "Byddai'n arbennig iawn ceisio gwneud y dwbl."
"Dwi wedi rhedeg yr amser sydd ei angen ar y ffordd, ond byddai'n rhaid i mi wneud hynny ar y trac.
"Mi fyddai'n anodd, ond byddai'n rhaid i mi eistedd lawr hefo fy hyfforddwyr i drafod y posibilrwydd."
Pencampwraig
Llwyddodd Stanford i oresgyn anfantais o 15 eiliad o gosb yn y bencampwriaeth triathlon ddydd Sadwrn am beidio â rhoi ei gwisg nofio yn y bocs.
Ond perfformiodd yn wych yn y ras redeg, gan orffen mewn 2:01.33, a chwblhau'r gyfres gyda 4220 o bwyntiau.
Cyn y ras, roedd y ferch 24 oed o Abertawe yn drydedd yn y gyfres ar ôl llwyddiannau yn y rowndiau blaenorol, gan gynnwys ennill y gyfres ym Madrid ym mis Mehefin.
Er i Stanford ddisgrifio'r tymor fel un "delfrydol", dydy hi ddim wedi bod yn hawdd iddi.
Cafodd ddamwain yn Hamburg ym mis Gorffennaf, gan dorri ei braich.
Ond roedd yn ôl yn cystadlu yn Stockholm bum wythnos yn ddiweddarach, gan orffen yn ail.
Yn ôl Stanford, mae'n gobeithio y gall hi a'i chyd gystadleuydd triathlon, Helen Jenkins - sydd wedi'i hanafu'r tymor hwn - gystadlu gyda'i gilydd yn Glasgow y flwyddyn nesa'.
"Bydd yn fraint cael sefyll ar y llinell gychwyn yn cynrychioli Cymru," meddai.
"Dydyn ni ddim yn cael cyfle i wneud hynny'n aml ac rydan ni'n wlad falch iawn.
"Byddai'n foment arbennig iawn."
Straeon perthnasol
- 14 Medi 2013
- 3 Mehefin 2013