Cynghorwyr Sir Fflint yn adolygu cost canolfannau hamdden
- Cyhoeddwyd

Mae dyfodol canolfannau hamdden a llyfrgelloedd cyhoeddus yn cael eu hystyried mewn adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i gabinet Sir Fflint ddydd Mawrth.
Yn ôl yr adroddiad mae'r cyngor wedi gorwario bron £1 miliwn wrth ailwampio canolfannau hamdden ar Lannau Dyfrdwy a thref y Fflint.
Dywed yr adroddiad fod incwm o'r canolfannau hefyd yn llai na'r amcangyfrif gwreiddiol .
Ymhlith yr opsiynau sy'n cael eu trafod mae rhannu cyfleusterau gyda chyrff cyhoeddus eraill neu drosglwyddo'r cyfrifoldeb am gynnal rhai cyfleusterau i gymunedau lleol.
Dywed yr adroddiad fod dros 1.5 miliwn wedi ymweld â chanolfannau hamdden y sir yn 2012-13, cynnydd o 300,000 o'i gymharu â 2009-10.
Cyfleusterau
Ond roedd y niferoedd yn dal yn llai na'r amcangyfrif a wnaed gan swyddogion y sir yn dilyn yr ailwampio.
Mae gan y sir ganolfannau hamdden, pyllau nofio a chyfleusterau eraill yn nhrefi Bwcle, Cei Connah, Fflint, Treffynnon, Yr Hob, Yr Wyddgrug a Saltney.
Un opsiwn sy'n cael ei ystyried yn yr adroddiad yw lleoli llyfrgelloedd a chanolfannau ieuenctid yn y canolfannau hamdden.
Mae son hefyd am drosglwyddo rhai o'r cyfleusterau i reolaeth cymunedau lleol.
"Yn yr hinsawdd economaidd presennol a'r rhagolygon i'r dyfodol does dim modd cynnal y cyfleusterau presennol," meddai'r adroddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2013