BBC Cymru Fyw

Marwolaeth babi: Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth

Published
image copyrightOther
image captionBu farw Alfie Sullock bedwar diwrnod wedi iddo fynd i'r ysbyty

Mae dyn 32 oed o ardal Nelson yng nghymoedd y de wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth babi chwe wythnos oed.

Dywed yr heddlu eu bod yn parhau i holi Michael Pearce ynglŷn â marwolaeth Alfie Sullock o'r Tyllgoed yng Nghaerdydd.

Aed â'r babi i'r ysbyty o gyfeiriad tŷ yn ardal Nelson ar Awst 16. Bu farw ar Awst 20.

Mae Mr Pearce eisoes wedi ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o ymosod ar y babi.

Straeon perthnasol

  • Dyn o Nelson yn y llys ar gyhuddiad o gamdrin babi