Brodwaith yn cofio hanes y diwydiant copr yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae brodwaith a grëwyd gan bobl leol yn cael ei dadorchuddio yn Amgueddfa Abertawe.
Bydd y darn yn rhan o arddangosfa 'Copperopolis' yr amgueddfa, sy'n edrych ar hanes y diwydiant copr y ddinas.
Crëwyd y brodwaith fel rhan o brosiect cyntaf Cynllun Eluned Gymraes Davies, cynllun sydd yn cael ei reoli gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Derbyniodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru arian oddi wrth ystâd Eluned Gymraes Davies (1910-2004) i'w choffáu.
Chwaraeodd Ms Davies ran allweddol pan sefydlwyd Canolfan Gymunedol Tŷ Bryn yn Uplands, Abertawe, dros 60 mlynedd yn ôl, a chafodd ei hapwyntio yn Bennaeth cyntaf yno.
Meddai Rhodri Morgan, Swyddog Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru:"Oherwydd ei chyfraniad at addysg gymunedol a'i harbenigedd mewn gwaith nodwydd, mae'n addas iawn fod prosiect cyntaf Cynllun Eluned Gymraes Davies wedi ei seilio ar frodwaith ac wedi ei gyflwyno yng Nghanolfan Tŷ Bryn, Abertawe."
'Deunyddiau anghyffredin'
Arweiniwyd gweithdai er mwyn creu'r brodwaith gan diwtoriaid y Ganolfan.
Dywedodd Jean Bills, un o'r bobl leol gymerodd rhan yn y prosiect: "Mae'r nawdd a gawsom wedi ein galluogi i ddefnyddio deunyddiau anghyffredin na fyddai ar gael i ni fel arfer.
"Ac yn sgìl hynny dysgom ni am hen dechnegau sydd bron â diflannu."
Bydd y brodwaith yn cael ei dadorchuddio ar 5 Medi 2013 a bydd i'w weld yn Amgueddfa Abertawe tan haf 2014.
Wedi hyn bydd y darn yn cael ei symud i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Dyma'r prosiect crefft cyntaf mewn cyfres o chwech a fydd yn cael eu cyflwyno mewn gwahanol ranbarthau o Gymru yn ystod y tair blynedd nesaf fel rhan o Gynllun Eluned Gymraes Davies.
Straeon perthnasol
- 13 Ebrill 2012