Newid blaenoriaethau ceisiadau tai?

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn pobl ynglŷn â newid y system dai, fel na fyddai cyn-garcharorion yng Nghymru yn cael blaenoriaeth o reidrwydd.

Y bwriad yw defnyddio'r Mesur Tai i roi diwedd i'r system bresennol o roi blaenoriaeth awtomatig i bob cyn garcharor, waeth pa mor fregus ydynt.

Meddai Carl Sargeant, y Gweinidog dros Dai ac Adfywio:

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu pawb sydd mewn perygl o gael eu gwneud yn ddigartref, gan gynnwys cyn-garcharorion. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa fel ag y mae hi'n anaddas, yn aneffeithiol ac yn gostus.

"Mae'r newidiadau arfaethedig wedi'u dylunio i ddarparu tai i bobl Cymru sydd eu hangen fwyaf.

Gellir cael mwy o wybodaeth am y cynigion a mynegi barn ar y wefan hon.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol