Gwrthdrawiad: Arestio dyn 23 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 23 oed wedi ael ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yng Nghasnewydd nos Sul.

Cafodd y dyn o ardal Casnewydd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r gylchfan ar Ffordd Balfe yn y ddinas am 10:30pm ar Fedi 15 wedi adroddiadau bod car Audi S3 wedi bod mewn gwrthdrawiad.

Roedd gyrrwr y car, dyn 22 oed o Gasnewydd, wedi marw yn y fan a'r lle. Cafodd menyw 21 oed oedd yn teithio yn y car driniaeth yn Ysbyty Brenhinol Gwent am fan anafiadau.

Mae'r dyn gafodd ei arestio ddydd Mawrth yn cael ei holi gan yr heddlu, sydd hefyd yn apelio am wybodaeth am y digwyddiad.

Maen nhw'n awyddus i glywed gan bobl oedd yn yr ardal ar y pryd, ac yn gofyn iddyn nhw ffonio 101 gan nodi'r cyfeirnod 493 15/09/13.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol