Cwrso sgwarnogod: Arestio tri
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn Sir Gaerloyw wedi arestio tri dyn ar amheuaeth o gwrso sgwarnogod yn anghyfreithlon ger Burford.
Cafodd y dynion 20, 21 a 23 oed i gyd o dde-ddwyrain Cymru eu harestio fore Sul Medi 15 ar yr A40 ger y ffin rhwng Sir Gaerloyw a Sir Rydychen.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Cafodd y tri eu harestio ar amheuaeth o dresmasu ar dir preifat er mwyn chwilio am helwriaeth ac maen nhw wedi cael gwŷs i fynd gerbron llys."