Snwcer: Trefnu colli i Gymro
- Cyhoeddwyd

Daeth i'r amlwg bod Stephen Lee - a gafwyd yn euog gan dribiwnlys o drefnu canlyniadau gemau snwcer - wedi trefnu i golli yn erbyn y Cymro Ryan Day ym Mhencampwriaeth y Byd yn 2009.
Mae Lee yn disgwyl clywed beth fydd ei gosb, ac mae son y bydd corff rheoli'r gamp yn goofyn am waharddiad oes i'r chwaraewr 38 oed.
Roedd Lee wedi gwadu'r honiadau yn ei erbyn oedd yn ymwneud a saith o gemau yn 2008 a 2009, gan gynnwys un ym Mhencampwriaeth y Byd.
Dywedodd Cymdeithas Snwcer a Billiards Proffesiynol y Byd (WPBSA) bod mwy na £40,000 wedi cael ei dalu i gyfrif banc ei wraig.
Cafodd Lee ei wahardd o'r gamp dros dro ers Hydref 2012 pan ddaeth yr honiadau i'r amlwg - roedd yn wythfed ymhlith detholion y byd ar y pryd.
Cafodd y tribiwnlys annibynnol ei gynnal ym Mryste yr wythnos ddiwethaf.
Daeth i'r canlyniad bod Lee wedi colli gemau'n fwriadol yn erbyn Ken Doherty, Marco Fu a Neil Robertson yng nghystadleuaeth Cwpan Malta yn 2008 a'i fod wedi cytuno i golli'r ffram gyntaf yn erbyn Stephen Hendry a Mark King ym Mhencampwriaeth y DU yn 2008.
Yn ogystal fe gollodd Lee o sgor oedd wedi ei benderfynnu o flaen llaw i Mark Selby ym Mhencampwriaeth Agored China yn 2009.
Ond y gêm sydd wedi tynnu sylw yw bod Lee wedi cytuno i golli i'r Cymro Ryan Day yn rownd gyntaf Pencampwriaeth y Byd yn 2009, a hynny o'r sgor penodol 10-4 - dyna ddigwyddodd.
Does dim awgrym o gwbl bod yr un o'r gwrthwynebwyr dan sylw yn ymwybodol o weithredodd Lee.
Mae nifer o chwaraewyr snwcer amlwg y byd, gan gynnwys Judd Trump, wedi dweud y dylai Lee gael ei wahardd o'r gamp am oes, ac mae pencampwr presennol y byd Ronnie O'Sullivan wedi awgrymu bod trefnu gemau yn digwydd ar raddfa llawer mwy eang nag sydd wedi ei ddatgelu hyd yma.