AC Llanelli yn ôl yn ei waith yn llawn-amser yn Ionawr

  • Cyhoeddwyd
Keith Davies
Disgrifiad o’r llun,
Aed ag AC Llanelli i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar Fedi 26.

Mae AC Llanelli Keith Davies wedi dweud bod doctoriaid wedi rhoi caniatâd iddo weithio'n llawn amser o fis Ionawr nesaf.

Fe gafodd yr AC Llafur geulad gwaed ar yr ymennydd ym mis Medi y llynedd.

Dychwelodd i weithio'n rhan amser ym mis Ionawr eleni.

Cafodd y gwleidydd 71 oed ei ethol i gynrychioli Llanelli yn 2011 ar ôl trechu Helen Mary Jones, Plaid Cymru, o 80 o bleidleisiau.

Cyn hynny roedd yn gynghorydd sir yn cynrychioli ward Hengoed Llanelli rhwng 2004 a 2008.

Mae wedi bod yn gyfarwyddwr addysg yn Sir Gaerfyrddin a Morgannwg Ganol.