Dynes o Gaerdydd yn chwilio am ddyn a'i hachubodd
- Cyhoeddwyd

Mae dynes o Gaerdydd yn chwilio am ddyn o Gymru a achubodd ei bywyd tra oedd hi ar ei gwyliau yn Ffrainc.
Roedd Fran Murphy yn nofio gyda thair o'i ffrindiau ar draeth ger Perpignan pan ddisgynnodd y tywod oddi tanynt.
Aeth y grŵp i drafferthion a bu bron i Ms Murphy, 52 oed, ddisgyn yn anymwybodol.
Mae'n credu fod y dyn a ddaeth i'w helpu yn dod o Abertawe.
Fe gludodd o'r merched i'r lan cyn eu rhoi yng ngofal yr awdurdodau brys lleol.
Roedd Ms Murphy, llyfrgellydd o Gaerdydd, ar ail ddiwrnod ei gwyliau ar y pryd.
'Ton reit fawr'
"Roedd yn ddiwrnod hyfryd ac roedden ni wedi bod yno'r diwrnod cynt heb unrhyw broblem.
"Dwi'n gallu nofio, ond ddim yn dda, ac roedden ni yn y dŵr, i fyny at ein cluniau fan bella' ac roedden ni'n aros yn agos at y lan.
"Dwi ddim yn siŵr be' ddigwyddodd ond mi ddaeth 'na don reit fawr a'r peth nesa', roedden ni wedi'n gwahanu a doedd dim ar ôl o dan fy nhraed."
Dywedodd fod y dyn yn y dŵr.
"Fe ddaeth o'n syth ata' ni ac mi afaelodd ynddo i, ond dim ond yn hanner-ymwybodol oeddwn i a dydw i ddim yn cofio unrhyw beth.
"Fe ddaeth â fi i'r lan ac roedd 'na ambiwlans yna."
Gwneud jôc
Helpodd y dyn ffrindiau Ms Murphy hefyd.
Ychwanegodd: "Dydw i ddim yn cofio unrhyw beth am y dyn, ond mae fy ffrind wedi ei ddisgrifio.
"Fe ddywedodd wrth un o fy ffrindiau, pan oedd o'n gwybod ei bod hi'n iawn, ei fod yn dod o Abertawe.
"Mi wnaeth jôc y byddai wedi'n gadael ni yno petai'n gwybod ein bod yn dod o Gaerdydd!"
Dywedodd Ms Murphy fod ei hysgyfaint 80% yn llawn o ddŵr a'i bod wedi aros yn yr ysbyty am wythnos, gyda dau ddiwrnod yn yr uned gofal dwys.
"Dydw i ddim eisiau codi embaras os y do' i o hyd iddo, dim ond eisiau dweud diolch," meddai.
"Mi wnaeth o rywbeth anhygoel ac efallai nad yw'n sylweddoli beth wnaeth o."
Mae'n debyg fod y dyn dan sylw tua 6 throedfedd 4 modfedd o daldra ac yn nofiwr cryf.