Arestio dyn wedi digwyddiad ger ysgol yn Y Porth yn Y Rhondda

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn lleol 26 oed wedi cael ei arestio wedi digwyddiad y tu allan i ysgol brynhawn Llun.

Daethpwyd o hyd i gyllell ac mae'r heddlu'n apelio am dystion.

Deellir bod lluniau o'r digwyddiad wedi eu tynnu y tu allan i Ysgol Gymunedol y Porth, Rhondda Cynon Taf, tua 12:30pm ddydd Llun.

Dywedodd yr Arolygydd Nick Picton: "Mae hwn yn ddigwyddiad difrifol iawn.

"Mae'r hyn ddigwyddodd yn frawychus a digwyddiadau'n ymwneud â chyllyll yn brin iawn yn yr ardal yma.

"Hoffwn dawelu pryderon y gymuned gan ein bod yn holi'r dyn 26 oed.

"Rydym hefyd yn parhau i siarad gyda'r ysgol ac ar gael i siarad gyda disgyblion neu rieni."