Achub dau wedi i gwch suddo ger Tywyn
- Cyhoeddwyd

Cafodd harbwrfeistr Aberdyfi wybod gan Wylwyr y Glannau Aberdaugleddau
Mae tad a mab wedi cael eu hachub wedi i'w cwch suddo oddi ar arfordir Gwynedd brynhawn Mawrth.
Cafodd harbwrfeistr Aberdyfi wybod gan Wylwyr y Glannau Aberdaugleddau fod cwch pysgota mewn trafferthion wedi iddi daro creigiau.
Roedd criw'r cwch wedi dweud bod dŵr yn llifo i mewn.
Fe gafodd criwiau achub o'r Bermo ac Aberdyfi eu galw ac erbyn iddyn nhw gyrraedd roedd y ddau yn y dŵr.
Roedd eu cwch, y Nikki Lou, wedi suddo ryw filltir o'r lan ger Tywyn.
Cafodd y ddau eu cludo i'r orsaf bad achub lle gwnaed yn siwr eu bod yn iawn.
Dywedodd Paul Edwards, rheolwr harbwr Aberdyfi, fod y ddau wedi cyrraedd yn "oer a gwlyb".
Maen nhw bellach wedi cael mynd adref.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol