Cynllun i achub golwg
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu mynd i'r afael â phroblemau llygad drwy gynnig cymorth i blant a phobl sy'n fwyaf tebygol o ddioddef problemau.
Eisoes mae bron i 100,000 yn dioddef o broblemau yn ymwneud â cholli golwg yng Nghymru, ac mae disgwyl i'r nifer godi wrth i'r boblogaeth heneiddio.
Mae'r llywodraeth yn disgrifio'r cynllun ar gyfer mynd i'r afael a'r broblem fel "y cyntaf o'i fath yn y byd".
Dywedodd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB) eu bod yn gobeithio y byddai'n arwain at lai o bobl yn dioddef o broblemau allai fod wedi cael ei hatal.
'Rhagorol'
Mae hyd at 75% o broblemau yn ymwneud â cholli golwg yn effeithio ar bobl dros 65.
Wrth gyhoeddi'r cynllun newydd pwysleisiodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford bwysigrwydd "gweithredu nawr", gan ddweud y gallai hanner yr holl achosion o ddallineb sy'n cael eu darganfod fod wedi eu hatal.
Mae'r cynllun yn ymrwymo'r llywodraeth i wella iechyd llygad plant ac oedolion drwy gynnal mwy o brofion a drwy drefnu cefnogaeth ar gyfer y rheiny sydd fwyaf tebygol o ddioddef o broblemau.
Dywedodd Mr Drakeford: "Mae gan Gymru enw rhagorol am ddatblygu a darparu gwasanaethau gofal iechyd y llygaid. Ond hyd yn oed y dyddiau hyn, mae amcangyfrifon yn awgrymu y gellid bod wedi osgoi bron hanner yr achosion o nam ar y llygaid.
"Wrth i'r boblogaeth heneiddio, bydd yr achosion o golli golwg yn cynyddu 22% erbyn 2020 ac yn dyblu erbyn 2050, yn ôl pob tebyg, felly mae'n rhaid inni weithredu ar unwaith.
"Bydd y cynllun rydyn ni'n ei gyhoeddi heddiw yn sicrhau bod gennym wasanaethau i atal a thrin problemau golwg, a chefnogi'r rheini sydd â nam ar eu golwg."
'Gweld yn y gymuned'
Mae Norma Davies, optegydd yn Nhreforys a Chadeirydd Optometary Wales wedi croesawu'r cynllun.
Dywedodd ei bod yn credu y gallai wneud dau beth: lleddfu pwysai o fewn ysbytai a dal problemau yn gynharach.
"Un peth ni'n gobeithio gwneud gyda'r cynllun newydd," meddai, "yw anfon pobl sydd gyda phroblem ar eu llygaid atom ni fel optegydd yn y stryd fawr fel ein bod ni'n gallu gwneud mwy o ymchwil i be sy'n achosi'r broblem gyda'r llygad, fel bod pobl sydd angen mynd i'r ysbyty yn mynd a'r bobl sy'n gallu cael triniaeth yn y gymuned yn cael hwnnw heb orfod mynd mewn i'r ysbyty.
"Ni'n gobeithio argymell bod pobl yn cael prawf llygad pob dwy flynedd a thrio cael rhai i blant yn ifengach a'u gweld yn fwy rheolaidd, cael oedolion i'w gweld yn fwy rheolaeth, pobl gyda macular degeneration a phroblemau gyda darllen - mae modd cael eu gweld nhw yn y gymuned.
"Fi'n credu bod yr hwyl yna nawr i bawb i gydweithio gyda'i gilydd - meddyg teulu, optegydd, arbenigwyr yn yr ysbyty - fel bod y claf yn cael y gorau allan o'r system ac achub eu golwg."