Llengfilwyr: Ysgol i ailagor ddydd Mercher
- Cyhoeddwyd
Bydd ysgol newydd yng Nghaerdydd, ble y cafodd bacteria legionella ei ganfod, yn ailagor ddydd Mercher.
Bu'n rhaid cau Ysgol Uwchradd y Dwyrain wedi i'r haint sy'n achosi Clefyd y Llengfilwyr gael ei ganfod ar y safle.
Agorodd yr ysgol - sy'n dod â 1,500 o ddisgyblion o ysgolion uwchradd Llanrhymni a Thredelerch at ei gilydd - ei drysau am y tro cyntaf ddydd Llun.
Dywedodd llefarydd ar ran yr ysgol: "Bydd Ysgol Uwchradd y Dwyrain yn ailagor i ddisgyblion yfory.
"Cafodd yr ysgol ei chau'r wythnos ddiwetha' ar gyfer gwaith cynnal a chadw angenrheidiol yn dilyn canfod y bacteria legionella yn ystod profion arferol yn yr ysgol.
"Mae'r gwaith hwn bellach wedi'i gwblhau a gall yr ysgol ailagor."
Fe ymddiheurodd yr ysgol am unrhyw anghyfleustra a achoswyd yn sgil cau'r safle.
Cafodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wybod am y darganfyddiad, ac fe wnaethon nhw gadarnhau nad ydyn nhw'n ymchwilio i unrhyw achosion o Glefyd y Llengfilwyr.
Gall Clefyd y Llengfilwyr arwain at fath angheuol o niwmonia, ond mae modd ei reoli'n hawdd drwy roi clorin mewn lleoedd storio dŵr.
Straeon perthnasol
- 14 Medi 2013
- 12 Medi 2013