Gateshead 0 - 3 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Yr hen ben Brett Ormerod sgoriodd gôl gyntaf y gêm
Mae Wrecsam wedi rhoi cweir i Gateshead gan sicrhau eu hail fuddugoliaeth yn olynol.
Roedd hi'n ddi-sgôr tan y 55ain munud pan roddodd Brett Ormerod Wrecsam ar y blaen gyda pheniad profiadol oddi ar ben profiadol - mae Ormerod yn 36.
Cafodd gefnogwyr yr ymwelwyr gyfle arall i ddathlu o fewn 10 munud wrth i Steve Tomassen ei gwneud hi'n 2-0 gydag ergyd dderbyniol o du fewn y blwch cosbi.
Rhoddodd gôl olaf y gêm - gan Andy Bishop - wên ar wyneb y rheolwr, Andy Morell.
Roedd pethau'n edrych yn ddu iddo wythnos yn ôl ond mae'r fuddugoliaeth ddiweddaraf yn lleddfu ychydig o'r pwysau oddi ar ei ysgwyddau.
Straeon perthnasol
- 13 Medi 2013