Plannu coed i gofio am deulu fu farw
- Cyhoeddwyd

Bydd coed yn cael eu plannu o gofio am dair cenhedlaeth o'r teulu a gafodd eu llofruddio mewn tân gafodd ei gynnau'n fwriadol yng Nghwmbrân.
Bu farw Kim Buckley, 46, ei merch Kayleigh, 17, a'i hwyres chwe mis oed Kimberley ar stad Coed Efa yng Nghwmbrân, Torfaen, fis Medi'r llynedd.
Bydd mam Mrs Buckley, ei mab a'i phartner yn plannu coeden yr un ar safle'r tân.
Mae cynlluniau hefyd i greu gardd gofeb yno.
Cafodd y cynlluniau eu gwneud yn dilyn ymgynghori gyda'r teulu ac aelodau o'r gymuned leol.
Ym mis Gorffennaf cafodd cariad Kayleigh, Carl Mills, ei garcharu am leiafswm o 30 mlynedd wedi i lys ei gael yn euog o'r llofruddiaethau.
Clywodd y llys ei fod wedi cynnau'r tân mewn bin ailgylchu yng nghyntedd y tŷ ar y noson y daeth Kimberley, oedd yn ferch iddo, ddychwelyd o'r ysbyty am y tro cyntaf ar ôl cael ei geni'n gynnar iawn.
Dywedodd mam Kim Buckley, Gwyneth Swain, nad yw'n medru ymdopi â cholli Kim, Kayleigh a Kimberley.
Bydd Mrs Swain, ei phartner Dai Parker a mab Kim, Shaun Harris, i gyd yn plannu coeden yr un mewn gwasanaeth arbennig am 3:30pm ddydd Mercher.
Trefnwyd y gwasanaeth gan y gymdeithas tai oedd yn rheoli cartref teulu'r Buckleys.
Bydd y Tad Robert Langton o Eglwys y Santes Fair yng Nghroesyceiliog yn arwain gweddi, a bydd y cynghorydd lleol yn diolch i'r gymuned.
Straeon perthnasol
- 18 Gorffennaf 2013
- 16 Gorffennaf 2013
- 25 Hydref 2012
- 18 Medi 2012