Cŵn gwarchod y Tywysog William wedi eu difa

  • Cyhoeddwyd
Y Tywysog William yn Y FaliFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Bu'r Tywysog William yn gweithio yn Y Fali am bron bedair blynedd

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi amddiffyn eu penderfyniad i ddifa dau gi gwarchod Dug Caergrawnt ddyddiau yn unig wedi iddo orffen gweithio yn Y Fali ar Ynys Môn.

Dywedodd y Weinyddiaeth eu bod wastad yn ceisio ailgartrefu cŵn, a bod amseru difa'r cŵn yn gyd-ddigwyddiad.

Roedd un ci, ci blaidd Belg (Belgian shepherd) o'r enw Brus, yn dod at ddiwedd ei oes fel ci gweithio ac roedd y llall, ci blaidd Almaeneg o'r enw Blade, â phroblemau ymddygiad.

Roedd y ddau gi yn rhan o uned oedd yn darparu gwarchodaeth ychwanegol yn Y Fali, ac nid oedden nhw'n gyfrifol am warchod y tywysog yn unig.

Dechreuodd Dug Caergrawnt hyfforddi fel peilot ar Ynys Môn yn Ionawr 2009 cyn cymhwyso ym Medi 2010.

Cyhoeddwyd yn ddiweddar y byddai William yn gadael yw awyrlu er mwyn canolbwyntio ar ddyletswyddau brenhinol a gwaith elusennol wedi iddo gwblhau ei shifft olaf am Fedi 10.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Mae'n wir bod dau gi wedi cêl eu difa ychydig ddyddiau yn ddiweddarach. Roedd hynny'n gyd-ddigwyddiad."

Ychwanegodd nad oedd modd defnyddio Blade ar gyfer dyletswyddau eraill gan fod ganddo hanes o "broblemau milfeddygol".

Dywedodd hefyd: "Polisi'r adran yw i ailgartrefu'r holl gŵn gweithio ar ddiwedd eu gyrfa pan mae'n ymarferol i wneud hynny.

"Yn anffodus mae achosion pan mae'n rhaid eu difa. Dyma'r dewis olaf bob tro.

"Yn yr achos yma, nid oedd y cŵn yn addas i gael eu hailgartrefu nac i wneud dyletswyddau eraill, ac er lles yr anifeiliaid roedd rhaid eu difa."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol