Morgannwg yn arwyddo Rudolph
- Cyhoeddwyd
Mae clwb criced Morgannwg wedi arwyddo Jaques Rudolph fel eu chwaraewr tramor ar gyfer y tymor nesaf.
Bu'r batiwr 32 o Dde Affrica ar lyfrau Surrey y tymor diwethaf, ac mae hefyd wedi cynrychioli Sir Efrog yn y bencampwriaeth.
Mae Rudolph wedi chwarae 48 o gemau prawf i Dde Affrica gan sgorio cyfartaledd o 35.43 rhediad.
Bydd yn cymryd lle Marcus Northo Awstralia sydd wedi bod gyda Morgannwg am y ddau dymor diwethaf.
Dywedodd Morgannwg eu bod hefyd yn agos ar arwyddo cytundebau fydd yn cadw Murray Goodwin a Dean Cosker ar gyfer y tymor nesaf, ac y bydd Simon Jones yn aros ymlaen i chwarae'r fersiwn T20 o'r gêm yn unig.
Cyhoeddodd Jones yn gynharach yn yr wythnos ei fod yn ymddeol o bob ffurf arall o griced er mwyn canolbwyntio ar y fersiwn yna o'r gamp.
Dywedodd prif weithredwr Morgannwg Alan Hamer:
"Rydym yn disgwyl y bydd y tri yma'r flwyddyn nesaf os fydd cytundeb...mae trafodaethau wedi bod yn mynd ymlaen ers tro.
"Byddwn yn gobeithio gwneud cyhoeddiad o fewn y pythefnos nesaf."
Roedd Cosker, 35 oed, a Goodwin, 40 oed, eisoes wedi dweud eu bod am ymestyn eu cytundebau gyda'r sir.
Mae disgwyl y bydd y tri yn rhan o'r tîm fydd yn herio Sir Nottingham yn rownd derfynol cystadleuaeth y YB40 ar faes Lord's ddydd Sadwrn - rownd derfynol gyntaf Morgannwg ers 2000.