Cavendish yn ennill cymal cyntaf yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Y beiciwr o Brydain, Mark Cavendish sydd wedi ennill cymal Cymreig cyntaf y Tour of Britain.
Roedd grŵp o 11 wedi bod ar y blaen am y rhan fwyaf o'r dydd, ond daeth y beicwyr gyda'i gilydd gyda 1km i fynd.
Pencampwr Prydain Cavendish ddaeth i'r brig wrth i'r cymal orffen yn Llanberis.
Elia Viviani oedd yn ail a Steele Von Hoff yn drydydd, tra bod Owain Doull o Gaerdydd wedi gorffen yn chweched.
Dechreuodd y cymal yn Stoke on Trent cyn teithio i Gymru am y tro cyntaf.
Aeth y beicwyr drwy Wrecsam Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy cyn gorffen am y diwrnod yn Llanberis yng Ngwynedd.
110 milltir
Ddydd Iau roedd y ras ar hyd cymal 110 milltir (177 cilomedr) drwy Fachynlleth ym Mhowys ac yn gorffen yng nghysgod Castell Caerffili.
Mae miloedd wedi gwylio'r ras a ddechreuodd yn yr Alban ddydd Sul ac a fydd yn gorffen yn Llundain.
Daeth y beicwyr cyntaf i mewn i Gymru ychydig wedi hanner dydd ym Mangor-is-y-coed ger Wrecsam ac roedd torf sylweddol wrth i'r ras fynd drwy ganol tref Wrecsam gyda'r heddlu'n eu tywys.
Roedd Sir Bradley Wiggins a gweddill Team Sky yn yr ail grŵp o feicwyr ar y pryd.
'Cyfle gwych'
Dywedodd Mick Bennett, cyfarwyddwr y ras: "Bydd y ddau gymal yng Nghymru eleni yn gyfle i gefnogwyr seiclo i weld y Tour of Britain.
"Mae'r ddau gymal yn cynnwys rhai o'r golygfeydd prydferthaf yn y ras gyfan ond hefyd nifer o fynyddoedd anodd iawn fydd yn siŵr o siapio natur y ras eleni."
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans, cadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru: "Mae hwn yn gyfle gwych i ni ddangos gogledd Cymru fel cyrchfan nid yn unig i feicwyr ond hefyd i ymwelwyr a hyd yn oed ein trigolion ein hunain.
"Mae gogledd Cymru yn brysur yn ennill enw da fel canolfan ar gyfer digwyddiadau chwaraeon pwysig.
"Ein gobaith yw y bydd y digwyddiad yn rhoi sylw mawr i ogledd Cymru, ac y bydd y llwyddiant yna yn denu digwyddiadau eraill i'r rhanbarth yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- 15 Medi 2013
- 21 Mawrth 2013