BBC Cymru Fyw

Y Llwybr Llithrig

Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC

Published

Mae'n anodd credu rhywsut y gallasai'r wladwriaeth yr ydym yn byw ynddi fod ar ei gwely angau ymhen blwyddyn. Sut deimlad fyddai hi i ddeffro rhyw fore a chanfod ein bod yn ddinasyddion Prydain Fach, Lloegr Fawr neu ba bynnag enw arall a fyddai'n cael ei dewis ar gyfer gwaddol y wladwriaeth bresennol?

Y term y mae'r dosbarth gwleidyddol yn defnyddio ar gyfer y wladwriaeth ryfedd honno yw "Rump UK". Ceisiwch gyfieithu honna - ac na, dyw pen ôl Prydain ddim yn gwneud y tro! RUK amdani am y tro felly!

Mae peth trafod wedi bod ynghylch sut y byddai'r wladwriaeth honno yn gweithio. Gellir disgwyl llawer mwy os ydy'r arolygon barn yn yr Alban yn closio.

Yn sicr fe fyddai llunio mecanwaith cyfansoddiadol ac economaidd ar gyfer RUK yn bosib. Mae Cymru a Lloegr yn hen hen uned wleidyddol - un llawer un hŷn na'r wladwriaeth bresennol ac ar ôl blynyddoedd o drafod a degawdau o drais go brin fod 'na awydd yng Ngogledd Iwerddon i newid ei threfniadau llywodraethol yn sylfaenol.

Ond anghofiwch am y cwestiynau ymarferol. Y cwestiwn mwy sylfaenol a fyddai modd creu unrhyw fath o deimlad o genedligrwydd neu wladgarwch ynghylch RUK? Hynny yw, a fyddai modd droi'r hynny o deimlad o Brydeindod sy'n weddill ymhlith y Cymry, y Saeson a phobl Gogledd Iwerddon yn ymdeimlad cenedlaethol parthed RUK?

Mae'n anodd credu hynny rhywsut. Mater o gyfleustra nid gwladgarwch fyddai RUK mwy na thebyg.

Un o'r dywediadau mwyaf cofiadwy yn hanes gwleidyddiaeth Cymru yw "the slippery slope to seperatism". Rwy'n gallu clywed Neil Kinnock yn dweud y geiriau wrth i mi ysgrifennu nhw ac yn 1979 y "llwybr llithrig" ynghyd a'r gost oedd yn bennaf gyfrifol am fethiant cynlluniau datganoli llywodraeth Jim Callaghan.

Ar y pryd cyhuddodd cefnogwyr datganoli Kinnock o godi bwganod ac ar y pryd mae'n debyg bod glud Prydeindod yn ddigon cryf i atal llithriad.

Fe gawn weld a ydy hynny'n wir yn achos yn yr Alban a'r Deyrnas Unedig yn unfed ganrif ar hugain ymhen blwyddyn ac os ydy'r Alban yn gadael fe brofir cryfder glud cymdeithasol RUK.

A allai wladwriaeth felly barhau neu a fyddai rhyw fath ar annibyniaeth i Gymru bron yn anorfod?

Atebion ar gerdyn post os gwelwch yn dda!