Pwll y Gleision: Achos llys y flwyddyn nesa'
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i'r achos yn erbyn rheolwr pwll glo'r Gleision ddechrau yn Llys y Goron Abertawe fis Mawrth y flwyddyn nesa'.
Malcolm Fyfield, 57 oed, oedd rheolwr y pwll pan lifodd dŵr i mewn ar Fedi 15, 2011.
Bu farw David Powell, 50 oed, Charles Breslin, 62 oed, Philip Hill, 44 oed a Garry Jenkins, 39 oed, yng Nghilybebyll ger Pontardawe.
Llwyddodd Mr Fyfield i ddianc ac aed ag ef i uned gofal dwys yn Ysbyty Treforys.
Mae ar fechnïaeth amodol ac yn wynebu pedwar cyhuddiad o ddynladdiad oherwydd esgeulustod dybryd.
Mae cwmni MNS Mining Limited, perchnogion y pwll ar y pryd, yn wynebu pedwar cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol.
Bydd Mr Fyfield a chynrychiolwyr y cwmni gerbron Llys y Goron Abertawe ar Ragfyr 16 er mwyn cyflwyno ple.
Mae disgwyl i'r achos llawn ddechrau ar Fawrth 24 a phara am wyth wythnos.