Creu 200 o swyddi mewn cwmni dodrefn yn Sir y Fflint

  • Cyhoeddwyd
Paul Islip
Disgrifiad o’r llun,
Mae Paul Islip yn dweud bod Westbridge yn bwriadu agor safle newydd ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy

Mae cwmni dodrefn yn Sir y Fflint wedi dweud eu bod yn gobeithio creu 200 o swyddi, wedi iddyn nhw arwyddo cytundeb newydd gyda chwmni rhyngwladol, Ikea.

Mae Westbridge Furniture Designs yn cyflogi 650 o bobl ar ddau safle, sy'n cynhyrchu 5,000 darn o ddodrefn bob wythnos.

Mae'r cwmni yn dweud eu bod eisoes wedi cyflogi 60 o bobl i ddelio gyda'r galw ychwanegol, ac maent yn gobeithio cynyddu'r nifer i 200 dros y flwyddyn nesaf.

Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr, Paul Islip bod y cytundeb newydd yn newyddion da i'r ardal.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Ikea wneud sylw.

Dywedodd Mr Islip bod y cytundeb i gyflenwi cadeiriau, soffas a gwlâu soffa wedi eu gorchuddio mewn lledr neu ffabrig.

Dywedodd hefyd bod y cwmni eisoes yn cyflenwi siopau Marks & Spencer, Next a John Lewis.

Mae Westbridge yn gweithio o ddau safle yn Sir y Fflint, yn Nhreffynnon ac ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

O ganlyniad i'r cytundeb newydd, mae'r cwmni yn bwriadu agor trydydd safle 140,000 troedfedd sgwâr o faint, ar y Parc Diwydiannol.

"Rydym yn falch iawn ein bod ni yn cyrraedd y gofynion i gyflenwi Ikea, ac yn edrych ymlaen berthynas hir a llwyddiannus gyda nhw," meddai Mr Islip.

"Mae'n golygu y gallwn greu 200 o swyddi i'r ardal."