Panel yn gwahardd nyrs am flwyddyn am gamymddwyn
- Cyhoeddwyd

Mae dynes wedi ei gwahardd rhag nyrsio am flwyddyn.
Cafodd 12 achos o gamymddwyn eu profi yn erbyn Anita Owen oedd yn nyrs yn Ysbyty Gwynedd.
Yn wreiddiol, clywodd panel fod 28 honiad o gamymddwyn rhwng 1998 a 2001 yn erbyn Ms Owen sydd wedi ymddeol o'i gwaith.
Nid oedd hi yn y gwrandawiad.
Roedd yr honiadau yn ei herbyn yn ymwneud â gwrthdaro gyda chyd-weithwyr a rhoi'r feddyginiaeth anghywir i gleifion.
Clywodd gwrandawiad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth fod ganddi nodweddion positif, gan gynnwys bod yn "brydlon, dibynadwy, yn dangos empathi ac yn ofalgar".
Ond roedd nifer o achosion lle nad oedd ymddygiad Ms Owen wedi bod yn briodol.
Diod
Clywodd y panel fod wyres un claf wedi gofyn am ddiod i'w nain a bod Ms Owen wedi gofyn pam ei bod hi am roi diod i'r claf am ei bod hi'n "marw beth bynnag".
Mewn achos arall roedd Ms Owen wedi tywallt tabledi i mewn i geg claf a'i gorchymyn i'w llyncu i gyd yr un pryd.
Ni chafodd 16 o honiadau eraill eu profi.
"Penderfynodd y panel fod angen y gwaharddiad er mwyn diogelu cleifion, sicrhau pwysigrwydd cadw ffydd y cyhoedd mewn nyrsio a dangos yn glir y safon ymddygiad sydd ei hangen ar nyrs" meddai datganiad.
Bydd y penderfyniad yn cael ei adolygu ar ddiwedd y 12 mis.
Straeon perthnasol
- 5 Medi 2013
- 29 Awst 2013