Trosedd ger ysgol: Cyhuddo dyn o geisio anafu

  • Cyhoeddwyd
Plismon
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y dyn 26 oed ei gadw yn y ddalfa

Mae'r heddlu wedi cyhuddo dyn o geisio anafu ac o feddu ar arf.

Cafodd dyn lleol 26 oed ei arestio wedi'r digwyddiad y tu allan i Ysgol Gymunedol Y Porth brynhawn Llun ac roedd yn Llys Ynadon Pontypridd ddydd Mercher.

Mae yn y ddalfa a bydd yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Mercher, Medi 25.

Daethpwyd o hyd i gyllell ac mae'r heddlu'n apelio am dystion.

Deellir bod lluniau o'r digwyddiad wedi eu tynnu y tu allan i'r ysgol yn Rhondda Cynon Taf tua 12:30pm ddydd Llun.

Dywedodd yr Arolygydd Nick Picton: "Mae hwn yn ddigwyddiad difrifol iawn.

"Mae'r hyn ddigwyddodd yn frawychus gan fod digwyddiadau'n ymwneud â chyllyll yn brin iawn yn yr ardal yma."