Saethu Casnewydd: Dyn yn y ddalfa

  • Cyhoeddwyd
Heddlu
Disgrifiad o’r llun,
Roedd heddlu fforensig wedi archwilio'r safle ar Ffordd Cas-gwent

Mae dyn ar gyhuddiad o geisio llofruddio tri yng Nghasnewydd wedi ei gadw yn y ddalfa.

Roedd Brogan Joseph Hooper, 20, o flaen Llys Ynadon Cwmbran.

Mae'r cyhuddiadau yn sgil saethu yng Nghasnewydd ar Fedi 3.

Bydd gerbron Llys y Goron Casnewydd ar Fedi 26.

Mae dyn arall o Gasnewydd, Lewis Bridge, 22 oed, eisoes wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio.

Cafodd pedwar dyn arall eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau yn parhau.

Roedd gwrthdrawiad ar Ffordd Cas-gwent yng Nghasnewydd tua 11.30yh ar Fedi 3.

Cafodd tri eu cludo i'r ysbyty, ac fe ddywedodd plismyn bod rhywun wedi saethu at eu cerbyd.

Mae'r tri, John Phillips, Michael Wall a Shanice Francis, wedi eu rhyddhau o'r ysbyty erbyn hyn.

Mae'r heddlu yn parhau i chwilio am y gwn gafodd ei ddefnyddio yn y digwyddiad, a'r cerbyd 4x4 lliw tywyll gafodd ei weld yn gyrru ar hyd Ffordd Cas-gwent a Ffordd Beechwood.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu gyda'r heddlu ar 101, neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.