Carchar ar ôl brathu clust meddyg
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 18 oed o Abergele wedi cael ei garcharu am dair blynedd a naw mis am frathu rhan o glust meddyg i ffwrdd.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Samuel Thomas Roberts wedi ymosod ar Dr Brython Hywel yn ddirybudd y tu allan i dafarn y Stag yn Llangernyw, Sir Conwy.
Er i ran o glust y meddyg gael ei rhoi mewn rhew nid oedd modd ei hachub.
Carolau
Roedd yr ymosodiad wedi gwasanaeth carolau Nadolig yn y pentre'.
Fe wnaeth Roberts bledio'n euog i niweidio gyda bwriad.
Clywodd y llys ei fod wedi yfed 15 peint a diodydd eraill.
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry fod ewythr y diffynnydd a'r meddyg wedi ceisio ei ddarbwyllo i fynd adre ac i beidio â chynhyrfu.
"Mi wnaethoch anwybyddu pob cyngor ... fe wnaethoch achosi niwed difrifol i ŵr oedd wedi cynnig eich helpu ac oedd wedi ceisio eich rhwystro chi rhag ymddwyn yn dreisgar tuag at eraill."
Dywedodd yr erlynydd Sion ap Mihangel fod yr ymosodiad tra bod Dr Hywel yn smygu y tu allan i'r dafarn.
Rhegi
Clywodd y llys fod Roberts eisoes wedi cwyno wrth y meddyg nad oedd pentrefwyr yn ei hoffi oherwydd iddo gael cerydd swyddogol gan yr heddlu oherwydd digwyddiad 12 mis ynghynt.
Roedd Dr Hywel wedi ceisio rhesymu gydag ef ond fe ddechreuodd Roberts regi a cholli ei dymer.
Aeth y meddyg yn ôl i'r dafarn a dweud wrth ewythr Roberts am yr hyn oedd wedi digwydd.
Pan aeth y meddyg allan i smygu unwaith eto fe ymosodwyd arno.